Ƶ

Clwb Pêl-droed Wrecsam – Ailddatblygu Eisteddle’r Kop

Wrecsam, Y Deyrnas Unedig

Manylion y prosiect

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Populous

McLaren Construction

2024 – 2027

peirianneg strwythurol, peirianneg tir, peirianneg sifil, peirianneg ffasadau, peirianneg gwasanaethau adeiladau (mecanyddol, trydanol a phlymio), goleuo, ynni, tân, diogelwch, symudiad pobl, gwastraff, dylunio cynhwysol, ymgynghori amgylcheddol, a monitro ar ran y cleient

Mae tîm amlddisgyblaethol yn Buro Ƶ yn allweddol yn natblygiad eisteddle newydd a thrawiadol Clwb Pêl-droed Wrecsam, a fydd yn golygu disodli’r Kop hanesyddol â thirnod newydd o fri. 

Ers tro byd, bu’r clwb yn gwbl ganolog ym mywyd Wrecsam, a gafodd statws dinas yn 2022. Mae ailddatblygu’r Kop yn y STōK Cae Ras yn foment o bwys i’r clwb pêl-droed ei hun ac i’r ddinas. Mae’n fwy na phrosiect adeiladu’n unig; mae’n ddatganiad o fwriad – yn ymrwymiad i ddyfodol y clwb, i’w gefnogwyr, ac i’r gymuned ehangach. A hwnnw wedi’i ddylunio i gyrraedd safonau Categori 4 UEFA, bydd yr eisteddle newydd yn adfer cynllun pedair ochr traddodiadol y stadiwm. Bydd y stadiwm hefyd yn gallu dal 7,500 yn fwy o bobl nag ar hyn o bryd, a bydd yn gallu cynnal gemau rhyngwladol. 

Mae Buro Ƶ yn falch o fod yn gyfrifol am becyn peirianneg ac ymgynghori cwbl integredig, a hwnnw’n cyfuno 14 o ddisgyblaethau. Mae’n gwneud hyn gan weithio’n agos gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam, Populous, a McLaren Construction. O’r dyluniad strwythurol i fynediad cynhwysol, o’r strategaeth ar gyfer tân i’r gwaith ymgynghori amgylcheddol, mae ein tîm yn helpu i greu eisteddle sy’n adlewyrchu uchelgais y clwb a balchder y ddinas. 

Dyma brosiect sydd wedi’i wreiddio mewn treftadaeth, ac sydd wedi’i ysgogi gan ddiben. Ers amser maith, bu’r Kop yn ganolog i hunaniaeth y clwb – yn lle llawn angerdd. Mae’r gwaith ailddatblygu’n golygu mwy nag edrych ar seddi a dur. Mae’n golygu creu gofod sy’n anrhydeddu’r gorffennol, sy’n gwasanaethu’r presennol, ac sy’n ysbrydoli’r dyfodol.

Yr heriau 

Roedd cyfres unigryw o heriau ynghlwm wrth brosiect eisteddle’r Kop – heriau technegol a strategol ill dau. O’r dechrau’n deg, esblygodd y briff yn gyflym tu hwnt. Ar ôl dymchwel hen deras y Kop, a oedd wedi mynd a’i ben iddo, mae’r prosiect wedi ymateb i dwf ac uchelgais clwb Wrecsam ei hun. Bu yno eisteddle dros dro yn ystod y dyrchafiadau o Gynghrair 2 a Chynghrair 1, tra crëwyd cynlluniau blaenorol ar gyfer eisteddle a fyddai’n dal 5,500 o bobl. Cynllun a fyddai’n gweddu i dîm yn y Bencampwriaeth oedd hwn yn wreiddiol, ond mewn dim o dro, datblygodd y weledigaeth yn un ar gyfer tîm yn yr Uwch Gynghrair, a bu’n rhaid ailfeddwl yn llwyr am faint a chymhlethdod y prosiect ac am sut y byddai’n cael ei gyflawni. 

Un o’r heriau mwyaf oedd sut i osod cyfleusterau modern i chwaraewyr yn rhan o’r eisteddle ei hun. Yn draddodiadol, ger llinell hanner ffordd y cae y bydd y cyfleusterau hyn, ond penderfynwyd eu symud i’r Kop er mwyn cyrraedd y safon sy’n ddisgwyliedig pan fydd tîm yn haen uchaf y gynghrair. Serch hynny, mae cyfleusterau i chwaraewyr yn llyncu llawer o ofod, ac mae angen llawer o wasanaethau ynddyn nhw. Bydd llawr gwaelod yr eisteddle hefyd yn cysylltu mewn ffordd bwysig â sgwâr allanol newydd, a bydd modd ei ddefnyddio pan na fydd gemau. Roedd cydbwyso’r galwadau hyn am ofod yn gofyn am gydlynu elfennau pensaernïol a pheirianneg mewn ffordd dra gofalus, yn enwedig ac ystyried geometreg serth yr eisteddle a’r angen i sicrhau bod 7,500 o bobl yn gallu symud o amgylch y lle’n effeithlon. 

Roedd dyluniad y ffasâd yn creu rhagor o gymhlethdod. A hwnnw wedi’i ysbrydoli gan waddol diwydiannol Wrecsam, roedd y weledigaeth yn galw am batrwm brics hydraidd, dwy haen, i adlewyrchu brics coch lleol Rhiwabon. Roedd creu’r estheteg hon ar y naill law, ond gan gyrraedd safonau perfformiad strwythurol ac amgylcheddol ar y llaw arall, yn galw am gydweithio agos rhwng ein tîm ffasâd, ein tîm strwythurol, ein tîm amgylcheddol, a’r penseiri. 

Her fawr arall oedd sicrhau y byddai’r dyluniad yn dal yn addas yn y dyfodol. Roedd yn rhaid i’n tîm ystyried y modd y byddai’r cynllun yn cyd-fynd ag eisteddleoedd posibl eraill ryw ddydd, ynghyd â’r uwchgynllun ehangach. Golygai hyn ymwrthod â’r demtasiwn i orlwytho’r Kop â chyfleusterau a allai fod yn fwy addas eu cyflwyno rywdro yn y dyfodol. Er hynny, roedd angen creu eisteddle a fyddai’n ateb anghenion ac yn cyflawni disgwyliadau’r presennol. 

Yn olaf, roedd y rhaglen ei hun yn her. Mae codi’r eisteddle yn un o’r ‘addewidion’ mawr a wnaeth y perchnogion, Ryan Reynolds a Rob McEelhenney, i’r clwb ac i’r dref, ac mae’n hollbwysig cyflawni’n gyflym yn hyn o beth. Gweithiodd ein tîm yn agos gyda’r cleient a’r contractwr i ganfod elfennau’r llwybr hanfodol, i brysuro ymlaen â’r prif becynnau, ac i sicrhau bod y prosiect yn barod am ddigwyddiadau fel pencampwriaethau ieuenctid UEFA.

llun: Populous.

Yr ateb 

Defnyddiodd Buro Ƶ ei brofiad, ei allu i gydweithio, a’i allu technegol i ymateb i’r heriau hyn. Gan fanteisio ar wersi a ddysgodd o brosiectau fel stadiwm Everton yn noc Bramley-Moore a stadiwm Tottenham Hotspur, bwriwyd ati i weithio mewn ffordd gydlynol ar bob elfen o’r dyluniad – gan barchu’r cynlluniau pensaernïol ar y naill law, ond gan sicrhau perfformiad ac ymarferoldeb y gwaith adeiladu ar y llaw arall. 

Cyfunwyd 14 o ddisgyblaethau wrth i’n tîm amlddisgyblaethol fynd ati i ddylunio’n gydlynol. Yn eu plith roedd timau yn y meysydd strwythurol; tir; sifil, mecanyddol, trydanol a phlymio; goleuo; ynni; tân; diogelwch; symudiad pobl; gwastraff; dylunio cynhwysol; ymgynghori amgylcheddol; a monitro ar ran y cleient. Roedd yr ehangder hwn o ran arbenigedd yn ein galluogi i reoli risgiau technegol, symleiddio’r prosesau lle byddai elfennau’n cydblethu, a glynu at weledigaeth gyson o’r cysyniad gwreiddiol i’r gwaith adeiladu.  

I ddatrys y tensiwn gofodol rhwng cyfleusterau’r chwaraewyr a chyntedd y cyhoedd, defnyddiwyd cynllun haenog, sy’n gosod gofodau’r chwaraewyr ar y llawr cyntaf. Ceir cynsail yn hyn o beth ym Manchester City, ac mae’n sicrhau bod y llawr gwaelod yn parhau’n hyblyg at ddefnydd y gymuned. Roedd y dull hwn hefyd yn helpu i ymateb i aneffeithlonrwydd wrth wasanaethu’r adeilad, drwy leihau’r tarfu wrth symud rhwng ardaloedd sydd wedi’u gwresogi ac sydd heb eu gwresogi ym mhroffil fertigol yr eisteddle.  

Datblygwyd y ffasâd drwy gydweithio’n agos â Populous, gan sicrhau bod modd gwireddu’r weledigaeth bensaernïol heb danseilio’r elfennau strwythurol na’r perfformiad amgylcheddol. Gweithiodd ein tîm i ddeall goblygiadau technegol y patrwm brics bylchog, yr adeiladwaith dwy haen, a’r elfennau treftadaeth a fyddai’n cael eu cynnwys, fel yr olwyn i gofio am Lofa Gresffordd a dreigiau’r clwb a fyddai’n sefyll ar wyneb y ffasâd.

Buon ni hefyd yn helpu’r cleient drwy roi cyngor strategol am sut i gyflawni’r prosiect mewn gwahanol gamau, ac am ddatblygiadau yn y dyfodol. Drwy gadw golwg ofalus ar yr uwchgynllun ehangach, helpon ni i osgoi gorlwytho’r Kop â chyfleusterau y byddai’n well eu rhoi mewn llefydd eraill, a chynigiwyd atebion dros dro pan oedd hynny’n briodol – fel trin gwastraff yn allanol – er mwyn rhoi hyblygrwydd gydag eisteddleoedd y dyfodol. 

Un o elfennau mwyaf nodedig y broses yw ein rôl ddeuol. Yn ogystal â helpu McLaren Construction i gyflawni’n dechnegol, rydyn ni hefyd yn monitro ac yn rhoi sicrwydd ar ochr y cleient. Mae’r strwythur hwn yn golygu bod y bwriad sy’n sail i’r dyluniad yn parhau’n gyson; mae’n sicrhau ansawdd; ac mae’n golygu bod modd i’r holl bartïon gyfathrebu’n effeithlon â’i gilydd. Mae waliau moesegol wedi’u gosod, ac mae ein timau wedyn yn gallu rhannu gwybodaeth, amlygu problemau posibl yn gynnar, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sydd o fudd i’r prosiect yn ei gyfanrwydd.

llun: Populous.

Gwerth 

Mae Buro Ƶ yn rhoi gwerth i waith ailddatblygu eisteddle’r Kop drwy ein gallu i gyfuno rhagoriaeth dechnegol a threiddgarwch strategol. Nid mater o beirianwyr yn codi eisteddle’n unig yw hyn – mae’n golygu creu tirnod dinesig sy’n adlewyrchiad o hunaniaeth Wrecsam, sy’n hwb i uchelgais y clwb, ac sy’n gwasanaethu’r bobl. 

Mae ein dull integredig wedi galluogi’r clwb i symud yn gyflym ac yn hyderus drwy’r broses ddylunio a chynllunio, gan sicrhau ansawdd da, a sicrhau perfformiad o safon uchel. Drwy gydlynu gwahanol ddisgyblaethau o’r dechrau’n deg, rydyn ni wedi helpu i leihau risg, wedi osgoi gwneud gwaith diangen neu wastraffus, ac wedi sicrhau bod pob elfen yn yr eisteddle’n cyfrannu at gyfanwaith cydlynus.  

Mae ein rôl ddeuol – yn cefnogi’r contractwr a’r cleient ill dau – wedi ychwanegu rhagor o werth. Mae’n ein galluogi i sicrhau bod y dyluniad yn cael ei barchu, tra ein bod hefyd yn gallu monitro ansawdd y gwaith adeiladu a rhoi cyngor i’r cleient am y cyfleoedd a’r heriau wrth i’r rheini ddod i’r amlwg. Mae’r cysondeb hwn yn arbennig o bwysig ac ystyried natur esblygol y briff a’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y stadiwm. 

Bydd eisteddle’r Kop yn fwy na lle i wylio pêl-droed. Bydd yn gyrchfan i’r gymuned, yn symbol o falchder y ddinas, ac yn sbardun i brosiectau adfywio. A hwnnw gwta funudau o’r orsaf reilffordd a chanol y ddinas, bydd yn egnïo’r ardal gyfagos, yn hwb i fusnesau lleol, ac yn cyfrannu at gynllun ehangach Porth Wrecsam – partneriaeth 20 mlynedd rhwng y clwb, y brifysgol a’r cyngor.

llun: Populous.
Back to top